Ar gyfer pwy?
Pobl â Syniadau, Busnesau Newydd a Busnesau Bach
Os ydych chi’n dechrau busnes, beth bynnag fo’r sector, gallwch gael gafael ar gymorth drwy MySparc. Byddwch yn cael eich cysylltu ag asiant cymorth busnes ac ymgynghorydd pwrpasol (person go iawn! Yn barod i’ch cefnogi chi!). Gallwch gael gafael ar eich holl ryngweithiadau, cynlluniau busnes, digwyddiadau a chyngor mewn un lle! Ni ddylech orfod poeni am gael gafael ar gymorth hefyd!
Asiantaethau Cymorth, Hybiau a Deorfeydd
Gallwch gael gafael ar eich holl gleientiaid mewn un lle. Mae MySparc yn caniatáu i chi gymeradwyo cleientiaid, llwytho eu gwybodaeth i lawr i restrau gwirio a ffurflenni sydd eisoes yn bodoli, rhoi cyngor, cael mynediad at eu cynllun busnes, a chadw’r holl wybodaeth yma mewn un lle hawdd ei reoli. Bydd MySparc yn integreiddio â llwyfannau presennol, fel Eventbrite, gan osgoi dyblygu a chaniatáu dull symlach ar gyfer eich cleientiaid.
Buddsoddwyr Angel a Mentoriaid
Rhwng £1,000 a £50,000 - os ydych chi eisiau dechrau buddsoddi neu os ydych chi’n bwriadu ehangu eich portffolio, mae MySparc ar eich cyfer chi. Gallwch weld cwmnïau yn ôl sector, lleoliad, neu swm buddsoddi. Arloesedd ar flaenau eich bysedd, yn barod i chi fanteisio arno. Gwnewch gais i fod yn Angel. Dechreuwch ar eich taith gyda MySparc - Cofrestrwch eich diddordeb.
Dechreuwch ar eich taith gyda MySparc - Cofrestrwch eich diddordeb
Beth mae'n ei wneud?
Eich galluogi chi i ddod o hyd i asiantaeth gymorth ?, creu eich cynllun busnes ?, cael adborth ar eich syniadau ?, rheoli eich tasgau ✅, siarad â’ch Ymgynghorydd Busnes ☎️, archebu lle mewn digwyddiadau cyffrous ?. Mae MySparc hyd yn oed yn caniatáu mynediad at rwydwaith gwerthfawr o angylion a mentoriaid ?. Popeth sydd ei angen arnoch chi, dan eich rheolaeth chi ?♂️.
Dysgu mwy am nodweddion MySparc isod...

Rheoli taith eich busnes, gyda’r holl gymorth sydd ei angen arnoch
Ffordd newydd o gael gafael ar gymorth busnes. Mae MySparc yn eich galluogi chi i gael gafael ar asiantaethau cyffrous a’r holl gymorth y gallant ei ddarparu. Mae popeth ar gael yma, ar MySparc - drwy’r ap neu ar y wefan.
Dilyn tasgau sydd wedi’u gosod gan eich asiant cymorth
Rhyngweithio â’ch ymgynghorydd busnes / asiant cymorth, cwblhau tasgau sydd wedi’u gosod er mwyn galluogi i’ch busnes dyfu a datblygu cam wrth gam.
Adolygu eich cynllun busnes a’i weld yn dod yn fyw
Drwy gwblhau pob tasg, bydd eich cynllun busnes yn datblygu a bydd eich syniad busnes yn dod yn realiti. Byddwch yn cael cymorth ym mhob cam, a gellir ei gael yn hawdd drwy MySparc.